Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (275) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 6 chwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4 a 5 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Tynnwyd y cwestiwn yn ôl.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
4 Dadl ar Araith y Frenhines
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Yn unol â
Rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Pwyllgor Busnes y byddai
unrhyw bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ôl y
ddadl.
NDM5792 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2015/2016.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw'r Bil Cymru arfaethedig yn gweithredu yn llawn argymhellion y Comisiwn Silk trawsbleidiol ac yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu’r argymhellion llawn heb oedi.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
10 |
44 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder ddychweliad y Bil Pwerau Ymchwilio, ffurf newydd ar y siarter fusnesu, fel y'i gelwir, a gafodd ei rwystro'n rheolaidd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn ystod Llywodraeth Glymblaid y DU; ac yn gwrthwynebu Llywodraeth y DU yn cael pwerau i fonitro data cyfathrebu unigolion.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
32 |
44 |
Gwrthodwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r Alban.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
3 |
10 |
44 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
10 |
44 |
Derbyniwyd Gwelliant 4.
Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU yn gwrthod cymal mwyafrif dwbl ym Mil Refferendwm yr UE a'r penderfyniad i atal pobl 16 a 17 oed rhag pleidleisio yn y refferendwm hwnnw.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
22 |
13 |
44 |
Gwrthodwyd Gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5792 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2015/2016.
2. Yn gresynu at y ffaith nad yw'r Bil Cymru arfaethedig yn gweithredu yn llawn argymhellion y Comisiwn Silk trawsbleidiol ac yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu’r argymhellion llawn heb oedi.
3. Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r Alban.
4. Yn gresynu at
fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion i ddiddymu Deddf
Hawliau Dynol 1998.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
3 |
10 |
44 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
5 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.17
NDM5790 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod gwerth darlledu neilltuol yn yr iaith Gymraeg a chyfraniad pwysig S4C o ran diogelu ein hiaith Gymraeg a chyfoethogi diwylliant Cymru;
2. Yn gwrthwynebu unrhyw doriadau pellach yng nghyllid S4C gan Adran Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a allai fygwth dyfodol y sianel hon; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU am bwysigrwydd cynnal annibyniaeth olygyddol, reolaethol a gweithredol S4C a'r angen am sail cyllid cynaliadwy i ddiogelu dyfodol darlledu yn yr iaith Gymraeg.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Cyfnod pleidleisio
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
7 Dadl Fer - Gohiriwyd tan 7 Gorffennaf 2015
NDM5793 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Hofrennydd heddlu Dyfed-Powys: pam mae'r X99 yn darparu cefnogaeth hanfodol i ddiogelwch y cyhoedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 16.56
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 30 Mehefin 2015